Y Gymru Gyfoes
Discover the authoritative and up-to-date course on contemporary Welsh economy, society, politics, and culture. Explore a wide range of fascinating case studies and gain a comprehensive understanding of social sciences. Enhance your knowledge of social structures, governance processes, and societal changes in post-war Wales. Analyze the diversity, inequalities, and implications for identities and political movements in Wales. Utilize evidence and arguments to critically evaluate different perspectives on understanding contemporary Wales using concepts and methods of Social Sciences.
Drwy edrych ar wahaniaethau a chysylltiadau, mae’r cwrs yn gofnod awdurdodol a diweddar o economi, cymdeithas, gwleidyddiaeth a diwylliant Cymru gyfoes ac mae’n cynnwys amrywiaeth eang o astudiaethau achos diddorol.
Deilliannau dysgu’r cwrs
Ar ôl astudio’r cwrs hwn, dylech allu:
Deall rhai o’r prif gysyniadau ym maes y gwyddorau cymdeithasol, e.e. rhaniadau, hunaniaethau, cynrychiolaeth, fel cyflwyniad cyffredinol i bynciau’r gwyddorau cymdeithasol
Deall y cysyniadau craidd ynglŷn â threfn, prosesau llywodraethu a newid cymdeithasol yng Nghymru ar ôl y rhyfel
Deall yr amrywiaeth, yr anghydraddoldebau a’r gwahaniaethau sy’n bodoli yng Nghymru a’u goblygiadau ar gyfer hunaniaethau a mudiadau gwleidyddol
Defnyddio tystiolaeth a dadleuon i gymharu a beirniadu ffyrdd gwahanol o ddeall y Gymru gyfoes
Deall sut y gallwch ddefnyddio cysyniadau a dulliau’r Gwyddorau Cymdeithasol i ddadelfennu’r ddealltwriaeth gyffredinol am faterion sy’n ymwneud â Chymru.