Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol
Learn how to make a political and social impact in the UK through this free online course. Gain key citizenship skills and knowledge to navigate a changing world. Explore the role of the UK Parliament and decentralized assemblies in driving change. Discover how you can become a change-maker. Enroll now!
Mae’r DU yn wynebu argyfyngau niferus: amgylcheddol, economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol ac iechyd. Mae’r cwrs ar-lein am ddim hwn yn amlinellu rhai o’r sgiliau dinasyddiaeth allweddol a’r wybodaeth sydd eu hangen i ymyrryd yn y byd wrth iddo newid.
Mae’n archwilio sut i wneud newid yn wleidyddol ac yn gymdeithasol trwy roi gwybodaeth gefndir hanfodol i ddechrau, enghreifftiau o wneuthurwyr newid ysbrydoledig, cyngor ar sut i gael effaith o fewn a thu allan i wleidyddiaeth seneddol draddodiadol y DU, a’r rhinweddau sydd eu hangen i lwyddo.
Sut gallwch chi wneud gwahaniaeth, yn wleidyddol ac yn gymdeithasol, i’r heriau hyn ac eraill?
Sut y gellir defnyddio Senedd y DU?
Sut gall y seneddau/cynulliadau datganoledig wneud newid?
Sut gallwch chi fod yn wneuthurwr newid?
Bydd y cwrs ar-lein am ddim hwn yn archwilio ymgysylltiad gwleidyddol a chymdeithasol ac yn cynnig arweiniad ac ysbrydoliaeth i bob gwneuthurwr newid, ni waeth pa mor fach ydyw.
Deilliannau dysgu’r cwrs
Ar ôl astudio’r cwrs hwn, dylech allu:
Adnabod rhai o’r heriau presennol yn y DU a/neu fyd-eang sydd o ddiddordeb i chi.
Deall beth mae ‘dinasyddiaeth weithgar’ yn ei olygu.
Deall sut i wneud newid gwleidyddol a chymdeithasol fel dinesydd gweithgar: sut i fod yn ‘wneuthurwr newid’
Deall gwaith sefydliadau gwleidyddol y DU a’r rôl sydd ganddynt o ran sicrhau newid, yn ogystal â ffyrdd eraill o sicrhau newid
Nodi a gallu defnyddio rhai o’r sgiliau a’r wybodaeth allweddol sydd eu hangen i sicrhau newid mewn sefyllfaoedd go iawn.
User Reviews
Be the first to review “Cyflwyniad i greu newid gwleidyddol a chymdeithasol”
You must be logged in to post a review.
There are no reviews yet.