Dechrau gyda seicoleg
Discover the complex factors that influence our thoughts and behaviors. Explore the multitude of influences, both internal and external, that shape our identities. Gain insights into the diverse explanations provided by psychologists for how and why people feel, think, and act the way they do. Uncover the hidden facets of our being and the profound impact they have on our happiness.
Y
‘Pos mwyaf a phwysicaf’ rydym yn ei wynebu fel pobl yw ni ein hunain
(Boring, 1950, tud. 56). Mae pobl yn bos – yn bos cymhleth, cynnil ac
Amlhaenog, a daw’n fwy cymhleth fyth wrth i ni esblygu dros amser a
Newid o fewn cyd-destunau gwahanol.
Wrth ateb y cwestiwn ‘Beth sy’n ein gwneud ni yn pwy ydym ni?’, mae
Seicolegwyr yn cyflwyno amrywiaeth o esboniadau pam bod pobl yn teimlo,
Yn meddwl ac yn ymddwyn fel ag y maent. Pan fydd yn ymddangos bod
Seicolegwyr yn deall un rhan o ‘pwy ydym ni’, daw tystiolaeth newydd i
Ddangos ochr wahanol i’r amlwg! Nid yw’n hawdd nodi’r holl ddylanwadau.
Deilliannau dysgu’r cwrs
Ar ôl astudio’r cwrs hwn, dylech allu:
Dadansoddi amrywiaeth o ffactorau o fewn a’r tu allan i unigolion sy’n dylanwadu ar y meddwl ac ar ymddygiad.
Ystyried dylanwadau lluosog mewn astudiaethau achos
Disgrifio’r ffordd y mae dylanwadau wedi’u cysylltu mewn ffyrdd cymhleth
Trafod y ffactorau lluosog sy’n dylanwadu ar yr hyn sy’n ein gwneud yn hapus.
There are no reviews yet.