Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)
Enhance your reading and listening skills with this course, as you learn various techniques to take effective notes. Whether you prefer detailed notes, diagrams, or none at all, this unit provides guidance on when and how to use different strategies. By the end, you’ll have improved your critical thinking abilities and gained valuable insights into online evaluation and note-taking. Master the art of efficient reading and note-making, and excel in assessing audio and solving problems. Sharpen your skills with this comprehensive course.
Mae darllen, gwrando a meddwl fel rhan o’ch astudiaeth yn aml yn mynd law yn llaw â gwneud nodiadau o ryw fath. Fe welwch fod sawl ffordd wahanol o ddarllen a sawl ffordd wahanol o wneud nodyn o rywbeth. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y byddwch yn darllen yn fwy neu’n llai am rywbeth, neu efallai y byddwch yn canolbwyntio ar un adran benodol o lyfr. Efallai y byddwch yn gwneud nodiadau helaeth, yn nodi ond rhai geiriau yn unig, yn gwneud diagramau neu efallai na fyddwch yn gwneud nodiadau o gwbl. Yn yr uned hon byddwch yn cael arweiniad ar ba dechnegau i’w defnyddio a phryd i’w defnyddio.
Deilliannau dysgu’r cwrs
Ar ôl astudio’r cwrs hwn, dylech allu:
Wedi datblygu eich sgiliau darllen a gwrando a bydd gennych ddealltwriaeth o wrando’n astud a darllen yn feirniadol
Wedi dysgu technegau er mwyn darllen yn gyflymach
Yn deall sut i werthuso deunydd ar-lein
Yn deall pwysigrwydd gwneud nodiadau da
Wedi dysgu sut i wneud nodiadau a’u rhoi mewn trefn
Yn gwybod sut i wneud nodiadau o ddeunydd sain
Yn gwybod sut i wneud nodiadau ar fformiwlâu a datrys problemau
Wedi dysgu dulliau er mwyn rhannu eich nodiadau.